Croeso i Believ yn Gymraeg! (Welcome to Believ!)
Mae’n bleser gennym ni eich croesawu i adran Gymraeg ein gwefan. Fel cwmni sy’n gweld gwerth mewn amrywiaeth a chynhwysiant, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r Gymraeg a gwneud ein gwasanaethau’n hygyrch i’n holl gwsmeriaid.
Ein hymrwymiad i’r Gymraeg
(Our commitment to Welsh)
Yma yn Believ, rydym yn deall pwysigrwydd gwarchod diwylliant, hunaniaeth a chymuned. Mae cefnogi’r Gymraeg a sicrhau bod ein cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith yn teimlo’n gartrefol pan fyddant yn defnyddio ein gwasanaethau yn rhan fwriadol o hynny. Rydym yn credu mewn grym iaith i ddwyn pobl ynghyd ac rydym yn falch o gyfrannu tuag at y gymuned Gymraeg egnïol.
Beth rydym ni’n ei wneud
(What we’re doing)
Da yw dweud ond gwell yw gwneud, felly er mwyn rhoi ein hymrwymiad ar waith, rydym yn falch iawn o gynnig y gwasanaethau canlynol yn Gymraeg:
- Gwasanaeth ffôn (Phone service): Mae gennym gynrychiolwyr Cymraeg yn rhan o’n hadran gwasanaeth cwsmer bellach, sy’n barod i’ch cynorthwyo gyda’ch ymholiadau neu broblemau.
- Arwyddion (Signage): Rydym yn defnyddio arwyddion dwyieithog ar draws ein rhwydwaith mannau gwefru.
- Cyfieithu manylion ein gwefrwyr (Charger translation): Rydym yn cyfieithu’r sgriniau a’r sticeri ar ein gwefrwyr i’r Gymraeg, gan sicrhau ei bod yn haws i’n cwsmeriaid Cymraeg ddefnyddio ein gwasanaethau.
Yma yn Believ, rydym yn treulio cryn dipyn o amser yn edrych at y dyfodol. Dyfodol lle mae trafnidiaeth gynaliadwy yn hygyrch i bawb a lle gallwn ni gyd fwynhau aer glanach. Ond nid yw hyn yn golygu bod y gorffennol yn angof. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cydnabod treftadaeth, hanes a diwylliant y cymunedau rydym yn eu cefnogi, a byddwn yn chwarae ein rhan i warchod a hybu agweddau cadarnhaol hyn. Mae ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau Cymraeg yn rhan o hyn.
Cysylltwch â ni (Contact us)
Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth a byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, awgrymiadau, neu bryderon, mae croeso mawr ichi gysylltu â ni. Mae eich adborth yn gymorth inni gynnig gwasanaeth gwell fyth ichi.